Mae tri o bobol wedi cael eu cyhuddo o droseddau brawychol yn dilyn yr ymosodiad ar farchnad Nadoligaidd Strasbourg ym mis Rhagfyr.

Cafodd pump o bobol eu lladd yn y digwyddiad.

Cafodd y tri eu harestio yn Alsace ddydd Mawrth, a chafodd dau arall eu rhyddhau’n ddi-gyhuddiad.

Roedd Cherif Chekatt, y prif droseddwr yn yr achos, eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd. Cafodd ei saethu’n farw ar Ragfyr 13, ddeuddydd wedi’r ymosodiad.