Mae 18 o bobol gyffredin a 23 wedi eu hanafu wedi i grwp arfog danio yn ystod cynhebrwng yng Ngweriniaeth Ganolog Affrica.

Fe ddaw’r cadarnhad gan y Cenhedloedd Unedig mewn neges Twitter, yn nodi mai dydd Gwener diwethaf y digwyddodd yr ymosodiad yn nhref Ippy gan y grwp ‘Undeb tros Heddwch’.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn condemnio’r weithred, wrth i drafodaethau heddwch ddigwydd yn y Sudan.

Mae Gweriniaeth Ganolog Affrica yn um o wledydd tlota’r byd ac mae ymladd mawr wedi bod yno ers 2013. Mae’r trais wedi ymledu yn ystod y misoedd diwethaf.