Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn 21 oed ar ôl iddo saethu tri o bobol, gan gynnwys ei rieni, yn farw yn Louisiana yn yr Unol Daleithiau.
Mae Dakota Theriot wedi’i amau o lofruddio Keith ac Elizabeth Theriot yn eu cartref fore ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 26).
Cafodd tri o bobol eraill eu saethu’n farw yn yr ardal, ac mae’r heddlu’n cysylltu’r ddau ddigwyddiad.
Bu farw Billy Ernest (43), Summer Ernest (20) a Tanner Ernest (17) yn yr ail ddigwyddiad.
Mae lle i gredu bod Dakota Theriot a Summer Ernest wedi bod mewn perthynas yn ddiweddar.
Mae’r heddlu’n dweud bod Dakota Theriot yn “beryglus ac wedi’i arfogi”.