Mae cyn-weinidog yn llywodraeth Israel wedi cael ei ddedfrydu i dreulio 11 mlynedd yn y carchar am ysbïo i Iran.
Fe gytunodd gweinidogaeth cyfiawnder Israel a Gonen Segev i daro bargen yn y llys ar ôl cyfaddef is ysbïo a throsglwyddo gwybodaeth i’w gelyn, Iran.
Fe gafodd ei alltudio a’i arestio ar ôl cyrraedd Israel ym mis Mai llynedd ar amheuaeth o weithredu fel asiant ar gyfer ysbïwyr Iran gan roi gwybodaeth am “farchnad ynni a safleoedd diogelwch yn Israel”.
Mae’n drobwynt arall ym mywyd troellog Gonen Segev, a gafodd ei garcharu am geisio smyglo cyffuriau i Israel pan fu’n weinidog ynni o dan y prif weinidog Yitzhak Rabin yn y 1990au.
Roedd y cyhuddiadau yn arbennig o ddifrifol gan fod Israel ac Iran yn elynion chwerw.
Mae Israel yn ystyried Iran yn fygythiad mawr iddyn nhw am eu bod eisiau eu dinistrio, gyda’i gefnogaeth i grwpiau milwriaethus fel Hezbollah a chreu daflegrau yn dangos hynny.