Mae pum aelod newydd wedi cael eu hychwanegu i Gyngor y Cenhedloedd Unedig, gydag un ohonyn nhw – Gweriniaeth Dominica – yn dechrau arni yn Llywydd y grŵp.

Ymhlith y gwledydd eraill sydd hefyd yn dechrau ar ddwy flynedd o aelodaeth mae gwlad Belg, yr Almaen, Indonesia a De Affrica.

Cafodd pob un o’r pum gwlad eu cydnabod yn aelodau mewn seremoni y tu allan i siambr y cyngor yr wythnos hon.

Daw’r cam ar ôl i aelodaeth Bolifia, Ethiopia, yr Iseldiroedd, Kazakhstan a Sweden ddod i ben ar ddiwedd 2018.

Y Cyngor

Cyngor y Cenhedloedd Unedig, sy’n cynnwys 15 o wledydd, yw corff mwyaf pwerus y sefydliad rhyngwladol.

Mae Tsieina, Ffrainc, Rwsia, yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig yn aelodau parhaol sydd â’r hawl i feto.

Mae gweddill yr aelodau’n cael eu hethol gan y Cynulliad Cyffredinol am gyfnodau o ddwy flynedd ar y tro. Mae llywyddiaeth y cyngor, ar y llaw arall, yn newid o fis i fis.