Cafodd o leia saith o bobl eu lladd a dwsinau eu hanafu ar ôl i adeilad trillawr ddymchwel ym mhrifddinas India, Delhi.

Credir bod rhai o’r preswylwyr yn dal yn gaeth o dan y rwbel. Fe ddigwyddodd y ddamwain gyda’r nos tua’r adeg pan fyddai’r rhan fwyaf o bobl wedi dychwelyd yn ôl i’w cartrefi.

Cafodd bachgen ifanc ei achub o’r rwbel ar ôl iddo fod yn gaeth pan gwympodd yr adeilad tra roedd yn cerdded heibio’r tŷ. Mae’n debyg bod y strydoedd yn yr ardal yn rhy gul i ganiatau i beiriannau mawr gyrraedd y safle i helpu i symud  y rwbel.

Mae’r ddamwain wedi tynnu sylw at amodau gwael y tai yn yr ardal ddifreintiedig.

Dywedodd pobl leol bod sawl teulu yn byw yn yr adeilad a chredir bod gwaith adeiladu mewn dwy adeilad gerllaw wedi gwanhau’r adeiladwaith.

Dywed yr heddlu bod pedwar o bobl wedi eu  hanafu’n ddifrifol.

Mae’r awdurdodau yn cynnal ymchwiliad.