Roedd y dyn sy’n cael ei amau o fod yn gyfrifol am ymosodiad brawychol yn Strasbourg wedi dangos ei gefnogaeth i Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu mai Cherif Chekatt oedd yn gyfrifol am saethu pump o bobol yn farw ger marchnad Nadolig yn y ddinas.

Cafodd erlynwyr hyd i fideo ar ffon gôf yn ei gartref, lle’r oedd yn datgan ei gefnogaeth i’r eithafwyr Islamaidd.

Cafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu ar Ragfyr 13, ddeuddydd ar ôl yr ymosodiad.

Yn dilyn ei farwolaeth, roedd asiantaeth newyddion Daesh yn honni ei fod yn aelod, ond mae hynny’n cael ei wadu gan lywodraeth Ffrainc.