Mae o leiaf 13 o lowyr wedi cael eu lladd mewn ffrwydrad methan yn y Weriniaeth Tsiec.

Fe ddigwyddodd y trychineb tua 2,600 troedfedd o dan y ddaear mewn pwll glo gerllaw tref Karvina yng ngogledd-ddwyrain y wlad brynhawn ddoe.

Mae ymdrechion i achub dynion o’r pwll yn parhau, er gwaethaf tân.

Roedd y mwyafrif o’r glowyr a gafodd eu lladd yn dod o wlad Pwyl.