Mae dau blismon o Chicago wedi marw ar ôl cael eu taro gan drên, a hynny wrth ymchwilio i adroddiadau o saethu yn y ddinas.

Roedd Eduardo Marmolejo, 37, a Conrad Gary, 31, yn ceisio dal person  pan gawson nhw eu taro gan drên toc ar ôl 6yh.

Mae’n debyg bod y trên yn teithio rhwng 60 a 70 milltir yr awr yn ystod y digwyddiad.

Yn ôl yr heddlu, mae’r dihangwr, a oedd â gwn yn ei feddiant, wedi cael ei arestio erbyn hyn.