Mae nifer o sêr mwya’r byd cerddoriaeth wedi ymgynnull yn Johannesburg ar gyfer cyngerdd i anrhydeddu cyn-Arlywydd De Affrica, Nelson Mandela.

Caiff ei gynnal yn Stadiwm FNB, lle cafodd ei wasanaeth coffa ei gynnal yn 2013.

Bu farw ar Ragfyr 5, 2013 yn 95 oed ac fe fyddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed fis Gorffennaf eleni.

Ef oedd arlywydd croenddu cynta’r wlad, ac roedd yn ymgyrchydd brwd a gafodd ei garcharu am ei ran yn gwrthwynebu apartheid.

Perfformwyr

Ymhlith y perfformwyr mae Beyonce a Pharrell Williams, yn ogystal â Trevor Noah, y digrifwr o Dde Affrica, ac Oprah Winfrey, y gyflwynwraig deledu.

Mae Naomi Campbell a Bob Geldof hefyd wedi bod yn rhan o’r digwyddiad, yn ogystal â phobol gyffredin sy’n gweithio i roi terfyn ar dlodi ar draws y byd.

Ond mae cysgod tros y digwyddiad yn dilyn marwolaeth gweithiwr yn stadiwm FNB wrth baratoi’r lleoliad.