Mae George Bush yr hynaf, arlywydd America rhwng 1989 ac 1993, wedi marw yn 94 oed.

Roedd eisoes wedi dilyn gyrfa ddisglair fel milwr yn yr Ail Ryfel Byd, pennaeth y CIA ac is-arlywydd, cyn cael ei ethol i olynu Ronald Reagan yn 1988.

Gwasanaethodd George Herbert Walker Bush fel arlywydd ar adeg dyngedfennol yn hanes ei wlad yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd a diwedd y Rhyfel Oer.

Er iddo fethu â chael ei ailethol yn 1992, pryd y collodd i Bill Clinton, gwelodd ei fab, George W Bush yn ei olynu wyth mlynedd yn ddiweddarach.

Roedd ef a’i wraig Barbara, a fu farw’n gynharach eleni, wedi bod yn briod am dros 70 mlynedd.

Teyrngedau

Mewn teyrnged iddo, fe wnaeth yr arlywydd Donald Trump ganmol ei “ddoethineb cadarn, synnwyr cyffredin ac arweiniad dibynadwy.”

Meddai’r cyn-arlywydd Barack Obama:

“Mae America wedi colli gwladgarwr a gwas gwylaidd.

“Er bod ein calonnau’n drwm heddiw, maen nhw hefyd yn llawn diolchgarwch.

“Mae bywyd George HW Bush yn dangos bod gwasanaethu’r cyhoedd yn alwedigaeth aruchel sy’n llawn boddhad. Fe wnaeth lawer o ddaioni ar hyd y daith.”

Dywedodd y cyn-arlywydd Bill Clinton y byddai’n fythol ddiolchar am ei gyfeillgarwch gyda George Bush, a’i fod yn edmygu ei ymroddiad at ei wraig a’i deulu.