Mae un o drigolion pentref yn Sir Gâr wedi “blino’n lan” â goleuadau traffig sydd – yn ôl y Cyngor Sir – ddim yn bod.

Yn ôl Elizabeth Evans o Bencarreg, cafodd goleuadau traffig ei gosod ar yr heol rhwng ei phentref hi a Llanbedr Pont Steffan dros flwyddyn yn ôl.

Cawson nhw eu gosod yno ar ôl i lori wyro oddi ar yr A485 gan blymio mewn i clawdd a diweddu yn ei chae, meddai.

Mae’r lori wedi hen fynd oddi yno a bellach mae’r heol yn “iawn”, yn ôl Elizabeth Evans, ond mae’r goleuadau yn parhau i fod yno.

Yn dilyn cais am wybodaeth pellach gan golwg360 mae Cyngor Sir Gâr wedi gwadu bod yna oleuadau yno, a does dim cofnod o’r goleuadau ar eu gwefan ‘gweithfeydd ffyrdd’.

“Mae’n blydi niwsans,” meddai wrth golwg360. “A dw i wedi cael llond bol … Dydyn nhw ddim yn dweud unrhyw beth wrtha i. Dw i wedi blino’n lan.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Gâr am eglurhad pellach.