Mae un o gerbydau gwylwyr y glannau Rwsia wedi taro yn erbyn llong llynges yr Wcráin, gan achosi peth difrod.
Fe ddigwyddodd wrth i’r cerbydau deithio o Odessa i Mariupol ar ddŵr rhwng y Crimea a Rwsia.
Mae’r Wcráin wedi cyhuddo Rwsia o fod yn ymosodol tuag atyn nhw, gan ddweud fod Rwsia yn gwybod am y daith ymlaen llaw.
Ond mae Rwsia wedi cyhuddo llongau’r Wcráin o beidio â dilyn y trywydd cywir.
Mae’r ddwy wlad yn rhannu’r dŵr ers 2003, ond mae Rwsia’n ei warchod yn ofalus ers 2015.