Mae gweinyddiaeth Donald Trump wedi cael ei beirniadu ar ôl i geisiwr lloches gael ei arestio ar ôl bod yn aros mewn eglwys.

Cafodd Samuel Oliver-Bruno ei arestio ddydd Gwener (Tachwedd 23) ar ôl mynd i apwyntiad gyda swyddogion mewnfudo yng Ngogledd Carolina, lle’r oedd disgwyl iddo greu cofnod o olion ei fysedd er mwyn cael aros yn y dalaith gyda’i wraig a’u mab.

Treuliodd e 11 mis mewn eglwys mewn ymgais i osgoi cael ei ddarganfod gan yr awdurdodau.

Dywed swyddogion y dalaith y byddan nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i’w gadw gyda’i deulu, ac y bydd yn cael aros yn yr Unol Daleithiau cyn dyfarniad.