Mae dau o bobol wedi cael eu hanafu ar ôl i fferi daro i mewn i ddoc yn San Francisco ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 23).

Roedd 53 o bobol ar fwrdd y fferi ar y pryd.

Roedd peth difrod i’r fferi wrth i’r cerbyd ddod i stop ar ôl taro concrid.

Mae ymchwiliad ar y gweill, a staff y fferi’n cael eu holi.

Yn ôl tystion, fe achosodd y digwyddiad gryn ofn i bobol oedd yn bwyta ac yn siopa gerllaw.

Cafodd teithiwr a gweithiwr eu hanafu.