Mae dyn 26 oed wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio dyn arall yng Nghaerdydd.

Does neb wedi gweld Mohamed Megherbi, sy’n wreiddiol o Algeria, ers Hydref 9 pan oedd e yn ardal y Rhath.

Aeth Kane Burns, 26 oed o Lanedeyrn, gerbron ynadon yng Nghaerdydd fore heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 24), wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa tan iddo ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Llun (Hydref 26).