Mae’r awdurdodau yng Nghaliffornia wedi dod o hyd i ddau yn rhagor o gyrff yn dilyn y tanau mawr ar draws y dalaith, gan ddod â nifer y meirw i 25.

Cafwyd hyd i’r ddau mewn car oedd wedi cael ei losgi y tu allan i eiddo ym Malibu yn sir Los Angeles. Dyma gymuned nifer o enwogion fel Lady Gaga, Kim Kardashian West, Guillermo del Toro a Martin Sheen.

Mae rhan fwya’r adeiladau o gwmpas yr eiddo wedi cael eu dymchel gan y tanau.

Wrth i’r gwyntoedd ostegu ychydig erbyn ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 10), doedd dim adroddiadau o danau newydd, wrth i ddiffoddwyr lwyddo i reoli 5% yn unig ohonyn nhw.

Mae rhai trigolion yn sir Ventura wedi cael dychwelyd i’w cartrefi erbyn hyn, ond mae cannoedd o filoedd yn rhagor yn dal yn alltud.

Erbyn hyn, mae pryderon y gallai’r tân achosi sychder mawr ar draws y dalaith, a hynny fisoedd yn unig ar ôl sychder a barodd bum mlynedd.