Mae nifer o wledydd, gan gynnwys Prydain, yn gwybod pwy oedd yn gyfrifol am ladd y newyddiadurwr Jamal Khashoggi yn llysgenhadaeth Saudi Arabia yn Istanbul, yn ôl Arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan.

Daw ei ddatganiad ar ôl i swyddogion o Saudi Arabia glywed recordiad yn ymwneud â llofruddiaeth y newyddiadurwr oedd yn gweithio i’r Washington Post.

Mae Recep Tayyip Erdogan wedi galw ar y wlad i weithredu’n gyflym yn dilyn y digwyddiad ar Hydref 2.

Galw am estraddodi unigolion

“Fe wnaethon ni roi tapiau iddyn nhw. Fe wnaethon ni eu rhoi nhw i Saudi Arabia, i America, i’r Almaenwyr, i’r Ffrancwyr, i’r Prydeinwyr, i bawb,” meddai Recep Tayyip Erdogan.

“Fe wnaethon nhw hefyd wrando ar y sgyrsiau ac maen nhw’n gwybod. Maen nhw’n gwybod yn sicr pwy allan o’r 15 yw’r llofrudd neu’r llofruddwyr.”

Yn ôl Twrci, cafodd 15 o ddynion arfog eu hanfon i ladd Jamal Khashoggi, lle’r oedd yn cyflwyno papurau priodas.

Mae Twrci hefyd am weld 18 o bobol dan amheuaeth yn cael eu hestraddodi er mwyn dwyn achos yn eu herbyn yn Nhwrci. Yn eu plith mae’r 15 dyn arfog.