Mae dau ddyn o’r Almaen wedi cael eu dedfrydu ar ôl dwyn mwy na 100 o doiledau dros dro.bortalŵs.

Fe gafodd y ddau, 40 a 28 oed, eu dedfrydu i gyfnod o garchar wedi ei ohirio gan lys rhanbarthol Dusseldorf.

Roedd y ddau’n gweithio i gwmni gwastraff, a chafodd y toiledau, a oedd yn werth 70,000 ewro, wedi diflannu o safle’r cwmni dros gyfnod o amser.

Y gred ydi bod y ddau weithiwr wedi gwerthu’r toiledau i gwmni o’r Iseldiroedd. Ond dim ond tri phortalŵ sydd wedi dod i’r golwg ers y lladrad.

Mae’r ddau bellach wedi colli eu swyddi.