Vladmir Putin
Mae Arlywydd Rwsia, Dmitry Medvedev, wedi enwebu Vladimir Putin yn ymgeisydd arlywyddol yn 2012.

Mae hynny bron a bod yn sicrhau y bydd Vladimir Putin yn ei olynu yn y swydd.

Daeth cynnig Dmitry Medvedev heddiw wrth iddo gyfarch cynhadledd ei blaid, Rwsia Unedig, y blaid sy’n tra-arglwyddiaethu ar wleidyddiaeth y wlad.

Doedd yna ddim ymateb swyddogol gan Putin na’r blaid, ond roedd cymeradwyaeth mawr yn gan ddeiliaid y gyngres.

Daw’r cyhoeddiad wedi misoedd lawer o ddyfalu a fyddai Dmitry Medvedev yn gofyn am ail dymor ynteu yn yn camu o’r neilltu.