Mae tad Amanda Knox yn dweud ei fod yn obeithiol y bydd adolygiad o’r dystiolaeth DNA yn helpu clirio enw ei ferch,, sydd wedi ei chyhuddo o ladd myfyrwraig o Brydain.

Wrth i erlynwyr baratoi eu datganiadau i gloi achos apêl yr Americanes yn yr Eidal, mae ei thad yn hyderus y bydd hi’n dod i’r amlwg nad oedd ganddi ran i’w chwarae yn llofruddiaeth Meredith Kercher.

 Mae Curt Knox yn dweud ei fod yn ddiolchgar iawn i Lys Apêl Perugia am ganiatau’r adolygiad, sydd wedi codi amheuon ynglŷn â llawer o’r dystiolaeth DNA a ddefnyddiwyd yn ystod achos gwreiddiol Amanda Knox, pan ddyfarnwyd ei bod yn euog o gymryd rhan yn llofruddiaeth Meredith Kercher.

Mae disgwyl i ddyfarniad ar yr apêl gael ei gyhoeddi ddechrau mis Tachwedd, gan ddod â 10 mis o apêl i ben.

Cafodd Amanda Knox, a’i chyn-gariad Raffaele Sollecito, eu dyfarnu’n euog o ymosod yn rhywiol ar Meredith Kercher a’i lladd. Cafodd Amanda Knox ei dedfrydu i 26 mlynedd o garchar, a Rafaele Sollecito ei ddedfrydu i 25 mlynedd o garchar.

Roedd y tri yn astudio yn Perugia adeg y llofruddiaeth yn 2007.