Mae cwmni allforio o’r Swistir wedi cadarnhau bod 12 aelod o griw llong, a gafodd eu herwgipio gan fôr-ladron yn Nigeria, wedi cael eu rhyddhau.

Cafodd y 12 morwr, a oedd yn cynnwys saith o’r Phlilpinas, ac eraill o Slovenia, yr Wcráin, Rwmania, Croatia a Bosnia, eu herwgipio gan y môr-ladron fwy na phum wythnos yn ôl.

Roedd y llong, sy’n eiddo i Massoel Shipping, yn cario grawn gwenith o borthladd Lagos i Port Harcourt yn Nigeria.

Mae’n debyg bod y môr-ladron, a ymosododd ar y llong ar Fedi 22, wedi defnyddio ysgolion hir er mwyn cael mynediad i’r bwrdd, cyn torri trwy weiren bigog er mwyn cyrraedd y criw.

Cafodd y 12 eu rhyddhau ddydd Sadwrn (Hydref 27) yn Port Harcourt, cyn cyrraedd y Swistir heddiw (dydd Llun, Hydref 29).

Mae llefarydd ar ran Massoel Shipping wedi dweud bod y morwyr mewn “cyflwr da, o ystyried yr amgylchiadau”.