Mae achubwyr yng Ngwlad yr Iorddonen yn parhau i chwilio’r Môr Marw am rai allai fod wedi goroesi’r llifogydd dirybudd ddoe (dydd Iau, Hydref 25).
Hyd yma mae 19 wedi marw.
Corff merch 12 oed oedd y diweddaraf i gael eu ganfod y bore yma, drannoeth y llif mawr.
Dywed yr awdurdodau Gwlad yr Iorddonen mai plant ysgol uwchradd yw 13 o’r 19 a fu farw, ac mae 21 o blant a phobol ifanc wedi eu hanafu.
Mae pryder bod mwy o bobol yn dal ar goll hefyd ac mae hofrenyddion, deifwyr, cŵn a channoedd o wirfoddolwyr yn parhau i chwilio’r ardal.