Mae darn o lwybr Clawdd Offa yn sychach wedi i griw o wirfoddolwyr adeiladu gwter 150 troedfedd o hyd i’w ddraenio.

Hefyd mae Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Powys wedi adeiladu grisiau ar y llwybr ger cwrs golf Llanymynech, sydd ar y ffin rhwng Powys a Sir Amwythig.

Mae Cyngor Powys wedi brolio’r gwaith “hanfodol”.

“Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa’n denu ymwelwyr o bedwar ban byd felly mae’n hanfodol ein bod yn cynnal y rhan sy’n rhedeg trwy ein sir,” meddai’r Cynghorydd Aled Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cefn Gwlad.

“Mae ein Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Powys wedi gwneud gwaith bendigedig ar ran hon y llwybr sy’n ffinio Cwrs Golff Llanymynech. Hoffwn i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion parhaol i gadw ein hawliau tramwy’n agored fel y gall pawb eu mwynhau.”

Llwybr lleidiog

Dywedodd Rob Dingle, Swyddog Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa: “Buodd rhan yma’r llwybr yn lleidiog ac yn llawn dŵr oedd yn golygu bod rhaid i gerddwyr droedio o’i hamgylch. Gall hyn erydu’r Gofeb Hynafol sy’n agos ati. Oherwydd cyflwr y llwybr buodd rhai cerddwyr yn sathru’r cwrs golff ei hun i osgoi’r rhan fwdlyd.

“Mae hyn yn welliant mawr i’r llwybr a dylai Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad Powys fod yn falch iawn o’r hyn maent wedi’i gyflawni ar y llwybr.”

Dywedodd Phil Stallard, Cydlynydd y Gwirfoddolwyr Cefn Gwlad: “Roedd hon yn dasg anodd i’n gwirfoddolwyr roi eu dannedd ynddi. Ond, fel bob tro, gorffennon nhw’r jobyn i safon uchel. Wrth i mi weithio ar y safle roedd hi’n braf clywed cerddwyr ar y llwybr cenedlaethol o bob cwr o’r byd yn diolch i ni am y gwaith roeddem yn ei wneud ar ran yma’r llwybr.”