Mae myfyriwr o Brifysgol Durham wedi ymddangos gerbron llyn yn yr Emiradau Arabaidd Unedig (UAE) wedi’i gyhuddo o fod yn ysbïwr.

Fe gafodd Matthew Hedges, 31, ei arestio ym maes awyr Dubai ar Fai 5 eleni, ac mae ei deulu yn dweud iddo gael ei gadw mewn cell ar ei ben ei hun am y pum mis ers hynny.

Roedd wedi treulio cyfnod yn y wlad yn cyfweld pobol ynglyn â pholisïau tramor a diogelwch a’r drefn yno.

Mae wedi ymddangos heddiw gerbron y Llys Apêl Ffederal yn Abu Dhabi, ac mae’n gwadu’r honiadau o ysbïo ar ran Llywodraeth Prydain.

Mae ei gyfreithiwr wedi galw ar i’r achos gael ei ohirio am y tro, ac mae disgwyl i’r gwrandawiad nesa’ ddigwydd Tachwedd 21.