Cyfres o fomiau pibell llawn gwydr oedd y math o ddyfeisiau a gafodd eu hanfon i gartrefi Hillary Clinton, y cyn-arlywydd Barack Obama, a gwleidyddion amlwg eraill yn America ddechrau’r wythnos hon.
Ni ffrwydrodd yr un o’r bomiau, ond fe fu’n rhaid i’r gwasanaethau cudd-wybodaeth (FBI) eu cymryd o’r tai er mwyn eu diffodd a’u hasesu.
Yn ôl y gwyddonwyr, mae pob un yn debyg iawn i’w gilydd, wedi’u hanfon mewn amlen manila gyda chwe stamp a chyfeiriad dychwelyd i Debbie Wasserman Schultz, cynrychiolydd y Democratiaid yn Fflorida, arnyn nhw.
Ymysg y bobol a gafodd eu targedu y mae rhai o’r enwau sy’n cael eu beirniadu amlaf gan Donald Trump.
Fe gyrhaeddodd yr amlen gyntaf dy’r miliynydd democrataidd, George Soros, ddydd Llun (Hydref 22), cyn i’r Democratiaid Debbie Wasserman Schultz a Mazine Waters gael eu targedu, ynghyd â swyddfa’r darlledwr CNN.