Mae ymgynghorwyr diogelwch America yn cynnal dau ddiwrnod o drafodaethau yn Mosgow ar ôl i’r arlywydd, Donald Trump, gyhoeddi ei fwriad i dynnu’n ôl o’r cytundeb niwclear.
Mae Donald Trumo wedi cyhuddo Rwsia o dorri telerau’r cytundeb sy’n gwahardd y ddwy wlad rhag arbrofi gyda thaflegrau sy’n gallu teithio rhwng 300 a 3,400 milltir.
Mae Rwsia wedi beirniadu’r penderfyniad i gefnu ar u cytundeb a gafodd ei greu yn wreiddiol gan Mikhail Gorbachev a Ronald Reagan yn 1987.
Mi fydd y trafodaethau yn dechrau heddiw wrth i dîm diogelwch America gyfarfod â Gweinidog Tramor Rwsia, Sergey Lavrov cyn cyfarfod arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yfory (Hydref 23).
Mae’r bygythiad diweddaraf hwn yn ychwanegu at y tensiynau sylweddol sy’n bodoli rhwng America a Rwsia, yn dilyn honiadadau o geiaio dylanwadu ar ganyniad etholiad arlywyddol 2016.