Mae’r gwaith o adnewyddu rhai o slymiau Cymraeg dinas Lerpwl, yn ennill gwobrau i’r cwmni sydd bellach yn trawsnewid yr ardal.
Yr wythnos ddiwethaf, prosiect adnewyddu y ‘Welsh Streets’ yn Toxteth oedd enillydd tair gwobr i’r cwmni Placefirst am ei waith yn troi’r hen dai oedd heb doiledau na gerddi, yn llefydd braf i fyw.
Er nad yw’r gwaith o droi’r strydoedd ag enwau Cymraeg fel Gwydir, Pengwern, Voelas, Kinmel, Powis a Treborth eto wedi’i gwblhau, y bwriad ydi creu 310 o dai fforddiadwy i’w rhentu i bobol a theuluoedd lleol.
Fe gafodd y tai eu codi’n wreiddiol gan weithwyr o Gymru a symudodd i ddinas Lerpwl i fyw yn y 19eg ganrif. Ymysg strydoedd y Welsh Streets mae Madryn Street, sef y stryd lle y bu Ringo Starr, drymiwr band y Beatles, yn byw.
Tro pedol Cyngor Dinas Lerpwl
Mae’r cynllun i adnewyddu Welsh Streets yn rhan o gynllun ehangach gwerth £30m a gafodd ei gymeradwyo gan Gabinet Dinas Lerpwl ym mis Mehefin, 2017 ar gyfer ardal Princes Park yn L8.
Yn 2015, fe fu protestio mawr yn erbyn cynlluniau Cyngor Dinas Lerpwl i ddymchwel y tai a chodi blociau o fflatiau yn eu lle.
“Prin ddwy flynedd yn ôl, roedd y Welsh Streets yn cael eu hystyried fel slymiau oedd yn dda i ddim ond i gael eu chwalu,” meddai llefarydd ar ran Placefirst. “Ond heddiw, mae rhannau ohonyn nhw eisoes yn gymunedau sy’n ffynnu unwaith eto…
“Fel cwmni sy’n datblygu ac yn rhentu tai sy’n fforddiadwy, ac yn ceisio creu cymunedau y bydd ein tenantiaid yn teimlo’n falch ohonyn nhw, rydan ni’n falch iawn bod ein gwaith yn derbyn cydnabyddiaeth fel hyn.”
Y gwobrau
Y mis hwn (Hydref 2018), fe gipiodd Placefirst wobr arbennig y Beirniaid yn seremoni flynyddol y NWPA, y digwyddiad sy’n tynnu sylw at waith adeiladu ac adnewyddu sy’n digwydd yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Ar yr un noson, prosiect Welsh Streets oedd enillydd dwy wobr arall hefyd – y Prosiect Adnewyddu Gorau, a Gwobr y Tai Fforddiadwy Gorau – gan drechu cwmnïau mawr fel Redrow a Barratt a David Wilson Homes.
Y mis diwethaf (Medi 21) fe gafodd prosiect Welsh Streets ei enwi o blith 89 o brosiectau tebyg ledled gwledydd Prydain, yn enillydd Gwobr Arbennig y Beirniaid yn noson wobrwyo’r British Homes Awards. Placefirst ddaeth i’r brig hefyd yng nghategori Cynllunio Trawsnewid, yn ogystal â chipio gwobr ‘Ymateb i’r Creisis Tai’.