Mae gweinidogion tramor Prydain, Ffrainc a’r Almaen wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn galw am “ffeithiau credadwy” i egluro marwolaeth y newyddiadurwr Jamal Khashoggi o Saudi Arabia.
Daeth cyfaddefiad ddydd Gwener bod y newyddiadurwr wedi cael ei ladd mewn llysgenhadaeth yn Istanbul, ond yr awgrym oedd iddo gael ei ladd mewn ffrwgwd.
Bellach, mae Jeremy Hunt, Jean-Yves Le Drian a Heiko Maas yn dweud eu bod yn “condemnio” ei farwolaeth “yn y termau cryfaf posib”.
“Mae bygwth, ymosod ar newyddiadurwyr neu eu lladd, o dan unrhyw amgylchiadau, yn annerbyniol ac o’r pryder mwyaf i’n tair cenedl.”
‘Eglurhad’
Dywedodd y tri eu bod yn “nodi” yr hyn oedd yn y datganiad gan Saudi Arabia, ond fod yna “angen brys am eglurhad am yr hyn ddigwyddodd yn union ar Hydref 2”, a bod angen i’r damcaniaethau “gael eu cefnogi gan ffeithiau i’w hystyried yn gredadwy”.
Ychwanegon nhw fod angen dod o hyd i’r gwirionedd “mewn modd cynhwysfawr, tryloyw a chredadwy”, ac y bydden nhw’n dod i gasgliad “ar sail pa mor gredadwy yw’r eglurhad pellach a gawn”.
Dywedon nhw y dylai’r sawl oedd yn gyfrifol fod yn “atebol” am yr hyn ddigwyddodd i’r newyddiadurwr ac am “unrhyw drosedd a gafodd ei chyflawni”.