Mae Yes Cymru wedi diolch i bedwar aelod o’r pwyllgor canolog yn dilyn eu penderfyniad i ymddiswyddo.
Mae ymddiswyddiadau’r cadeirydd Iestyn ap Rhobert, yr is-gadeirydd Rhydian Hughes, yr ysgrifennydd Moelwen Gwyndaf a’r trysorydd Gweirydd ap Gwyndaf yn gadael pump aelod ar ôl.
Bydd y rhai sydd ar ôl yn rhannu dyletswyddau’r pwyllgor canolog rhyngddyn nhw am y tro, ac fe fydd cyfarfod cyffredinol arbennig yn cael ei gynnal ymhen deufis i ethol pwyllgor newydd.
Yr aelodau sy’n dal ar y pwyllgor yw Dilys Davies, Matthew Ford, Gwyn Llewelyn, Tricia Roberts a Leon Russell.
Mewn cyfarfod cyffredinol yn ddiweddar, penderfynodd Yes Cymru gynnal ymgynghoriad ar gyfansoddiad y mudiad, ac i gynnal cyfarfod cyffredinol arbennig i bleidleisio ar newidiadau sydd wedi cael eu cynnig. Ond mae’r ymddiswyddiadau diweddaraf yn golygu bod y broses honno wedi cael ei gohirio am y tro.
Ymateb Yes Cymru
Wrth ymateb i’r ymddiswyddiadau mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd Yes Cymru, “Hoffai Yes Cymru ddiolch iddynt oll am y gwaith enfawr a’r ymrwymiad a roddwyd ganddynt i’r achos dros annibyniaeth i Gymru.
“Maent wedi chwarae rhan bwysig yng ngwaith y Pwyllgor Canolog, sydd wedi cymryd Yes Cymru o syniad i ymgyrch genedlaethol, gan arwain y cynnydd mewn cefnogaeth o annibyniaeth i Gymru.”
Eglura’r datganiad y bydd 16 aelod newydd yn cael eu hethol trwy bleidlais i’r pwyllgor canolog, ac y bydd enwebiadau’n agor dros yr wythnosau nesaf.
“Wrth i Yes Cymru barhau i dyfu, rydym yn anelu i ddatblygu a chryfhau’r cyfansoddiad newydd gyda chymorth ein haelodau, i wneud Yes Cymru yn addas fel sefydliad aml-aelod, llawr-gwlad sy’n cael ei arwain gan yr aelodau.
“Yn ystod y bennod newydd hon o Yes Cymru, rydym hefyd yn anelu i wneud y Pwyllgor Canolog yn fwy tryloyw ac yn fwy atebol i’n haelodau a’n grwpiau lleol.
“Hoffem ddiolch unwaith eto i’r swyddogion sydd wedi ymadael am eu holl waith. Trwy gryfder ac undod fe gyflawnwn ein nod o Gymru annibynnol.”