Mae Corwynt Michael wedi taro taleithiau deheuol America, gan ladd o leiaf un person.

Ar ôl croesi dyfroedd cynnes Mecsico, fe gyrhaeddodd y storm ogledd Fflorida ac yna fe aeth yn ei blaen am dalaith Georgia.

Yng ngogledd Fflorida, mae 388,000 o dai wedi colli eu cyflenwad trydan, a bu farw dyn pan gwympodd coeden ar ei dŷ.

Mae 375,000 o bobol wedi gorfod ffoi o’u cartrefi er mwyn osgoi’r dinistr, ac mae arbenigwyr yn credu mai dyma un o’r stormydd cryfaf erioed i daro’r Unol Daleithiau.

Wrth symud i gyfeiriad y gogledd, mae’r corwynt wedi gwanhau yn raddol o Gategori 4 i Gategori 1.