Mae Brett Kavanaugh wedi gwadu cyhuddiadau ei fod wedi ymosod yn anweddus ar ddynes pan oedd yn ddisgybl ysgol uwchradd.
Mae’r barnwr wedi’i enwebu gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i olynu Anthony M Kennedy yn Ustus ar Oruchaf Lys y wlad.
Ond mae ei obeithion o esgyn i’r rôl hwnnw bellach yn y fantol, wedi i dair dynes gamu ymlaen â’i gyhuddo o ymosod yn anweddus a chamymddwyn rhywiol.
Ar ddydd Iau (Medi 27), gwnaeth un o’r menywod yma – yn ogystal â Brett Kavanaugh, 53, ei hun – ymddangos gerbron Pwyllgor Barnwriaeth y Senedd er mwyn rhoi tystiolaeth.
Yn ystod y sesiwn dywedodd Christine Blasey Ford, 51, ei bod yn sicr “gant y cant” bod y barnwr wedi ymosod yn anweddus arni mewn parti yn yr 1980au.
Gwadu’r holl gyhuddiadau wnaeth Brett Kavanaugh gan gyhuddo’r Democratiaid o gynnal “cynllwyn bwriadol” i ddial am fuddugoliaeth Donald Trump yn etholiad 2016.