Mae arlywydd Zimbabwe yn dweud ei fod wedi gwahodd Donald Trump i adeiladu cwrs golff yn y wlad.
Yn ôl Emmerson Mnangagwa, mae wedi cynnig i arlywydd yr Unol Daleithiau fel bod modd iddo “chwarae golff a gweld anifeiliaid gwyllt yr un pryd”.
Am ddegawdau mae’r perthynas rhwng Zimbabwe a’r Unol Daleithiau wedi bod yn gwaethygu, a dyma ymgais gan yr arweinydd Affricanaidd i roi ddiwedd ar hynny.
Mae Donald Trump yn golffiwr brwd, ac mae ei fab wedi ymweld â Zimbabwe yn y gorffennol ar drip hela – trip a ddenodd beirniadaeth ar-lein.
Daeth Emmerson Mnangagwa i rym ym mis Tachwedd, gan olynu Robert Mugabe a fu wrth y llyw am ddegawdau.