Mae uwch-glerigwr yn Eglwys Gatholig yr Almaen wedi ymddiheuro am y miloedd o achosion o gam-drin rhywiol a ddigwyddodd o fewn yr eglwys dros gyfnod o 70 mlynedd.
Cafodd adroddiad ei gyhoeddi ddoe (dydd Mawrth, Medi 25) a oedd yn nodi bod o leiaf 3,677 o bobol wedi cael eu cam-drin yn rhywiol gan glerigwyr rhwng 1946 a 2014.
“Mae camdriniaeth rywiol yn drosedd,” meddai’r Cardinal Reinhard Marx, sy’n bennaeth ar y Gynhadledd o Glerigwyr yr Almaen.
“Mae gen i gywilydd bod cymaint ohonom ni wedi edrych i ffwrdd, gan beidio â chydnabod beth ddigwyddodd a helpu’r dioddefwyr. Mae hynny’n wir o’m rhan i hefyd.”
Daw’r ymddiheuriad ar ôl i’r Pab Francis gydnabod bod y ffrae ynghylch camdriniaeth rywiol yn gyrru pobol i ffwrdd o’r Eglwys Gatholig.
Dywedodd fod angen i’r Eglwys newid ei ffyrdd os am gadw cenedlaethau’r dyfodol yn rhan o’r sefydliad.