Mae cwmni awyrennau Ryanair yn gorfod canslo dwsinau o hediadau, wedi i beilotiaid a staff yn yr Almaen gynnal streic undydd tros gyflogau ac amodau gwaith.
Mae’r undeb Cockpit yn cadarnhau fod y streic wedi dechrau am dri o’r gloch y bore, heddiw (dydd Mercher, Medi 12) ac y bydd yn effeithio ar bob un o ganolfannau’r cwmni yn yr Almaen, yn cynnwys Frankfurt a Berlin.
Mae disgwyl i Ryanair ganslo 150 o hediadau i ac o’r Almaen yn ystod dydd Mercher a dydd Iau.
Mae’r undebau yn dweud nad yw’r cwmni wedi cyflwyno cynigion cyflog boddhaol, nac wedi cynnig amodau gwaith digonol. Ond mae Ryanair yn dweud eu bod nhw wedi bod yn deg, ac nad oes cyfiawnhad dros y streic mewn gwirionedd.
Y mis diwethaf, fe aeth peilotiaid Ryanair yn nifer o wledydd Ewrop ar streic, ac fe fu’n rhaid canslo 400 o hediadau.