Mae Sweden yn wynebu wythnosau o ansicrwydd gwleidyddol ar ôl i ddwy brif blaid y wlad fethu a sicrhau mwyafrif clir yn yr etholiad cyffredinol.
Gyda’r rhan fwyaf o’r pleidleisiau wedi eu cyfrif, roedd gan y blaid lywodraethol fwyafrif bychan iawn dros yr wrthblaid Alliance.
Roedd yna hwb hefyd i’r blaid adain dde, Sweden Democrats, yn sgil yr anfodlonrwydd cynyddol am integreiddio miloedd o fewnfudwyr yn y wlad dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r blaid, sy’n gwrthwynebu mewnfudo, wedi ennill 18% o’r bleidlais, cynnydd o’r 13% a enillodd bedair blynedd yn gynharach.
Mae’r Prif Weinidog Stefan Lofven, a ddaeth a’r blaid adain chwith, y Social Democrats, i rym yn 2014, wedi dweud ei fod yn bwriadu aros yn ei swydd.
Ond mae Ulf Kristersson, arweinydd y blaid Moderates a ddaeth yn ail, wedi galw ar Stefan Lofven i ymddiswyddo ac wedi dweud ei fod eisiau’r hawl i ffurfio llywodraeth nesaf Sweden.
Mae’r blaid Alliance wedi dweud y bydd yn cwrdd i drafod y camau nesaf ac yn mynnu bod Stefan Lofven yn ymddiswyddo.
Mae Sweden yn wynebu wythnosau o drafodaethau am ffurfio clymblaid cyn i’r llywodraeth nesaf gael ei ffurfio.
Mae’r Social Democrats eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n ystyried clymbleidio gyda’r Sweden Democrats.