Mae her gyfreithiol wedi cael ei chyflwyno i’r Uchel Lys y bore yma (dydd Llun, Medi 10) yn erbyn cynlluniau i waredu mwd o orsaf niwclear yn ne-orllewin Lloegr i’r môr ger Penarth ym Mro Morgannwg.
Y nod yw symud 300,000 tunnell o fwd o orsaf niwclear Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf i safle sydd dros filltir o Fae Caerdydd, gyda’r cwmni sy’n gyfrifol am y cynlluniau, EDF, yn gobeithio cychwyn ar y gwaith heddiw (dydd Llun, 10 Medi).
Mae profion wedi cael eu cynnal ar y mwd gan asiantaeth Llywodraeth Prydain, CEFAS, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymeradwyo canlyniadau’r profion hynny.
Ond mae ymgyrchwyr yn dal i boeni am y lefelau o ymbelydredd yn y mwd, gan honni bod yna ddiffyg profion wedi cael eu cynnal arno.
Ceisio atal y mwd
Mae’r ymgyrchwyr sydd wedi cyflwyno’r her gyfreithiol heddiw yn cynnwys y cerddor ac aelod o’r band Super Furry Animals, Cian Ciaran, a’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy.
Mae cronfa ar-lein sydd wedi’i sefydlu gan Neil McEvoy eisoes wedi cyrraedd y targed o £5,000, ac fe fydd yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i geisio sicrhau gwaharddiad dros dro ar gynlluniau EDF.
Mae’r ymgyrchwyr hefyd yn gobeithio codi hyd at £15,000 er mwyn atal y cynlluniau’n derfynol.
Cyflwyno papurau
“Nodyn cyflym i’ch hysbysu ein bod yn cyflwyno papurau gyda’r Uchel Lys am 10 o’r gloch heddiw,” meddai hysbysiad ar dudalen y gronfa.
“Yr ydym yn gofyn am waharddeb i rwystro gollwng y mwd. Rydym yn dadlau bod diffyg Asesiad Effaith Amgylcheddol yn ei wneud yn anghyfreithlon.
“Byddwn ni mewn cysylltiad pellach cyn hir. Diolch i bawb.”