Mae’r cyn-blismon David Duckenfield wedi gwadu 95 cyhuddiad o ddynladdiad cefnogwyr pêl-droed trwy esgeulustod dybryd.
Y cyn-Uwch Arolygydd gyda Heddlu De Swydd Efrog oedd yn gyfrifol am ddiogelwch yn ystod gêm gynderfynol Cwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ar Ebrill 15, 1989.
Bu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl ar ôl cael eu gwasgu pan ruthrodd cefnogwyr i mewn i’r stadiwm.
Dydy e ddim wedi’i gyhuddo mewn perthynas â marwolaeth cefnogwr arall, Tony Bland, am iddo farw dros flwyddyn yn ddiweddarach ac am fod yr achos yn mynd rhagddo fel y byddai wedi gwneud pe bai e wedi cael ei gyhuddo ar y pryd.
Aeth David Duckenfield, sy’n 74 oed bellach, gerbron Llys y Goron Preston drwy gyswllt fideo i glywed y cyhuddiadau yn ei erbyn.
Cafodd enwau’r 95 eu darllen yn uchel cyn iddo wadu’r cyhuddiadau wrth i rai o’r teuluoedd fynd i’r llys.
Mae cyn-Ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday, y clwb sy’n chwarae yn Hillsborough, wedi gwadu un cyhuddiad o dorri amodau tystysgrif diogelwch y stadiwm ac un cyhuddiad o dorri rheolau iechyd a diogelwch.