Mae 18 o bobol wedi’u lladd yn Ne Sudan ar ôl i awyren blymio i ganol llyn, ac mae’r nifer yn parhau i godi.
Fe ddigwyddodd yn ninas Yirol, wrth i’r awyren 19 sedd deithio o’r brifddinas Juba.
Mae ymchwiliad ar y gweill.
Ymhlith y rhai sydd wedi goroesi mae plentyn chwech oed a dyn o Ewrop sydd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.