Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi ymateb yn chwyrn i’r ffordd mae’n cael ei bortreadu mewn llyfr newydd.
Mae Fear: Trump In The White House yn honni bod ei bennaeth staff, John Kelly, yn ei alw’n “ynfytyn”, a’i fod yn galw’r weinyddiaeth yn “Crazytown”.
Hefyd mae’r llyfr yn dweud bod Jim Mattis, yr Ysgrifennydd Amddiffyn Americanaidd, yn feirniadol o’i Arlywydd a’n dweud ei fod yn ymddwyn fel “plentyn ysgol gynradd”.
Dyw Donald Trump ddim wedi croesawu’r disgrifiadau yma ohono, ac mewn neges ar Twitter mae’r ffigwr wedi awgrymu y dylai cyfreithiau enllib gael eu llymhau.
“Onid yw hi’n drueni bod rhywun yn medru ysgrifennu erthygl neu lyfr, gwneud pethau i fyny a chreu delwedd anwir o berson, a mynd yn ddi-gosb,” meddai’r Arlywydd ar Twitter.
“Pam nad yw gwleidyddion Washington yn newid cyfreithiau enllibio? Dw i ddim yn gwybod.”
Bob Woodward yw awdur y llyfr, ac ef yw un o’r newyddiadurwr a daflodd goleuni tros sgandal Watergate yn ystod arlywyddiaeth Richard Nixon.