Fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump ddim yn mynd i angladd y Seneddwr John McCain.

Fe fu farw Seneddwr Arizona o ganser yr ymennydd yn 81 oed ar Awst 25.

Mae’r cyn-arlywyddion Barack Obama a George W Bush yn rhoi teyrngedau yn ystod gwasanaeth yn Eglwys Gadeiriol Washington wrth i bum niwrnod o wasanaethau ddod i ben.

Ond cafodd yr Arlywydd presennol orchymyn i gadw draw o bob un o’r gwasanaethau.

Fe fydd y Seneddwr o Arizona yn cael ei gladdu mewn seremoni breifat ar safle Academi’r Llynges yn nhalaith Maryland.

Teyrngedau

Mae llu o deyrngedau wedi’u rhoi i John McCain ers ei farwolaeth.

Dywedodd Llefarydd y Tŷ, Paul Ryan ei fod yn “un o’r eneidiau dewraf y mae ein cenedl wedi eu cynhyrchu”, gan ychwanegu ei fod yn “ymhyfrydu mewn brwydrau”.

Er nad oedd yn cydweld â’i wleidyddiaeth, dywedodd y Dirprwy Arlywydd Mike Pence fod John McCain “yn sicr wedi gadael ein cenedl yn fwy llewyrchus ac yn fwy diogel” yn sgil ei waith ar ddiwygio’r llywodraeth, diwygio trethi a’r lluoedd arfog.

Wrth siarad ar ran Donald Trump, ychwanegodd fod John McCain “wedi gwasanaethu ei wlad ag anrhydedd”, a bod yr Arlywydd yn “parchu ei wasanaeth i’r genedl”.