Mae Tsieina wedi gwadu eu bod yn bwriadu anfon milwyr i Afghanistan.
Yn ôl llefarydd ar ran eu gweinyddiaeth amddiffyn, mae ymdrech ar waith i helpu Afghanistan gryfhau ei byddin, ond does dim bwriad i anfon milwyr yno.
Roedd papur newydd y South China Morning News wedi awgrymu bod Tsieina’n adeiladu gwersyll i filwyr Afghanistan gyda’r bwriad o’i ddefnyddio ar gyfer ei milwyr hithau hefyd.
Ofn brawychaeth
Mae un o lysgenhadon Afghanistan wedi datgelu eu bod yn derbyn cymorth er mwyn ymladd brawychaeth, ond does dim un milwr o Tsieina wedi ei anfon i’r wlad.
Mae’r ddwy wlad yn rhannu ffin, a phryder Tsieina yw y gallai trafferthion brawychol eu cymydog orlifo i ardal Xinjiang.
Yn raddol mae dylanwad Tsieina dros y wlad yn tyfu, ac er gwaetha’r gwadu mae adroddiadau’n awgrymu bod cerbydau Tsieineaidd i’w gweld yng ngogledd orllewin Afghanistan.