Fe ddylai’r enillydd Nobel Aung San Suu Kyi fod wedi ymddiswyddo o’i rôl yn bennaeth Burma.

Dyna farn pennaeth hawliau dynol y Cenhedloedd Undeig wrth i adroddiad gan y corff rhyngwladol gondemnio lluoedd arfog y wlad o droseddau yn erbyn dyboliaeth.

Mae Zeid Ra’ad al-Hussein wedi condemnio’r cyn-ymgyrchydd hawliau dynol am aros yn ei swydd er gwaetha’r ymosodiadau sydd wedi bod ar leiafrif y Moslemiaid Rohingya yno.

Mae hefyd wedi ei beirniadu am geisio amddiffyn y digwyddiadau – roedd wedi ennill Gowbr Heddwch Nobel am ei hymgyrchu cynharach o blaid hawliau dynol yn Burma.

‘Doedd dim rhaid bod yn llefayrdd’

“Roedd hi mewn sefyllfa i wneud rhywbeth,” meddai Zeid Ra’ad al-Hussein wrth y BBC. “Fe allai fod wedi aros yn dawel neu, yn well fyth, fe allai fod wedi ymddiswyddo.

“Doedd dim angen iddi fod yn llefarydd ar ran grymoedd milwrol Burma.”

Dyw Aung San Suu Kyi ddim wedi condemnio’r ymosodiadau ar y Rohingya ac mae wedi dweud bod angen amynedd wrth i Burma gael ei thrawsnewid – mae pethau’n edrych yn wahanol i bobol oddi mewn i’r wlad, meddai.