Mae anesthetydd yn sefyll ei brawf yn Hong Kong wedi’i gyhuddo o ladd ei wraig a’i ferch, a hynny drwy roi pelen ioga oedd yn gollwng carbon monocsid yn eu car.

Mae honiadau bod Khaw Kim-sun, 53 o Falaysia, wedi bod yn caru gyda rhywun arall ac wedi’i ddieithrio rhag ei wraig a’i bedwar o blant, er eu bod nhw dal yn byw gyda’i gilydd.

Yn ôl y South China Morning Post, mae’n wynebu cyhuddiadau o roi’r belen ioga llawn nwy yng nghist y Mini Cooper roedd ei wraig, Wong Siew-fung, yn ei yrru ar 22 Mai, 2015.

Cafwyd hyd i’r wraig a’i merch 16 oed yn anymwybodol yn y car am tua awr ar ôl gadael eu tŷ a bu farw’r ddwy o wenwyno carbon monocsid difrifol, er nad oedd unrhyw nam i’w weld ar y car.

Bydd achos llys Khaw Kim-sun, sydd wedi pledio’n ddieuog, yn dechrau ddydd Mercher.

Yn ôl yr erlynydd, Andrew Bruce, doedd e ddim yn ymwybodol bod ei ferch adref o’r ysgol ar ddiwrnod ei marwolaeth ac roedd hi’n debygol nad oedd wedi ceisio ei lladd.