Mae prif weinidog newydd Pacistan wedi cynnig dechrau trafod gydag India, er mwyn ceisio datrys y ffraeo sydd wedi bod rhwng y ddwy wlad.
Mae cynnig Imran Khan yn cynnwys trafodaethau ar ardal Kashmir.
Er mwyn symud ymlaen, meddai Imran Khan, mae angen hefyd mynd i’r afael â thlodi er mwyn i’r ddwy wlad drws nesa’ i’w gilydd allu cydweithio a masnachu gyda’i gilydd.
Fe ddaw’r cynnig wedi i brif weinidog India, Narendra Modi, anfon neges yn llongyfarch Imran Khan ar gael ei ethol i’r swydd, a mynegi y byddai’n barod i ystyried trafodaethau.
Mae Pacistan ac India wedi mynd i ryfel ddwywaith ers 1947 tros ranbarth Kashmir. .