Fydd Brasil ddim yn cau’r ffin ä Feneswela, er bod tensiynau rhwng y ddwy wlad wedi.arwain at ymosodiadau ar fewnfudwyr.
Fe ddaeth y cyhoeddiad gan Weinidog Materion Cartref Brasil, Sergio Etchegoyen, wrth iddo egluro y hyddai cau’r ffin yn weithred “anghyfreithlon”.
Fyddai hynnu chwaith, meddai, ddim o fudd wrth geisio datrys y sefyllfa yn nhref Pacaraima yn nhalaith ogleddol Roraima.
Fe drodd trigolion Pacaraima ar fewnfudwyr o Feneswela ddydd Sadwrn, wedi i berchennog siop ddiodde’ lladrad a chael ei drywanu a’i guro.
Mae Brasil yn dweud mai pedwar mewnfudwr oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar y siopwr 55 oed.
“Mae cau’r ffin yn amhosib, oherwydd fe fyddai’n anghyfreithlon,” meddai’r gwleidydd.
Er hynny, mae yna densiynau wedi bod mewn mwy nag un o drefi a phentrefi ar y ffin rhwng y ddwy wlad.