Mar Imran Khan wedi tyngu llw wrth gael ei urddo yn brif weinidog newydd Pacistan.

Fe lwyddodd ei blaid i ennill y nifer mwyaf o bleidleisiau yn etholiad y mis diwethaf – er bod gwrthbleidiau yn protestio’n erbyn y canlyniad ac yn honni fod y gwasanaethau cudd wedi ymyrryd yn y pôl.

Mae wedi tyngu llw heddiw (dydd Sadwrn, Awst 18) wedi iddo gael ei ethol yn ffurfiol gan fwyafrif aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Er i blaid Tehreek-e-Insaf ennill y nifer mwyaf o bleidleisiau ar Orffennaf 25, doedd ganddi ddim mwyafrif clir. Mae wedi ffurfio clymblaid gydag aelodau annibynnol er mwyn llywodraethu.

Un o brif bolisïau ymgyrch Imran Khan oedd i ymladd llygredd gwleidyddol ac i dorri’r monopoli sydd gan dirfeddianwyr cyfoethog mewn materion gwleidyddol.

Mae wedi addo y bydd ymchwiliad yn digwydd i’r honiadau o dwyll yn erbyn ei blaid ei hun yn yr etholiad fis diwethaf.