Mae athro o’r Unol Daleithiau wedi torri’r record am yr amser cyflymaf erioed wrth groesi o ochr orllewinol Môr yr Iwerydd i’r ochr ddwyreiniol ar ei ben ei hun.

Cyrhaeddodd Bryce Carlson, athro gwyddoniaeth 37 oed o Ohio, Ynysoedd Sili 38 diwrnod, chwech awr a 49 munud ar ôl gadael Newfoundland.

53 diwrnod, wyth awr a 26 munud oedd y record flaenorol.

Fe rwyfodd e fwy na 2,000 o filltiroedd yn y môr yn ei gwch 20 troedfedd, Lucille, gan ddweud iddo gael cryn dipyn o “lwc” ar hyd y ffordd.

Ef hefyd yw’r Americanwr cyntaf erioed i gyflawni’r gamp.