Mae gweddillion milwyr o’r Unol Daleithiau a fu farw yn Rhyfel Corea wedi dychwelyd i dalaith Hawaii.
Ildiodd Gogledd Corea’r gweddillion yr wythnos ddiwetha’, a chawson nhw eu trosglwyddo i’r Unol Daleithiau ddydd Llun (Gorffennaf 27).
Daw hyn wrth i’r berthynas rhwng y ddwy wlad wella, ac yn sgil cyfarfod rhwng eu harweinyddion, Donald Trump a Kim Jong Un, yn Singapor.
Mae swyddogion yr Unol Daleithiau wedi croesawu’r cam, ond wedi datgan nad oes sicrwydd mai gweddillion Americanwyr ydyn nhw mewn gwirionedd.
Fe allai gymryd misoedd i adnabod y cyrff a darganfod os mai milwyr o’r Unol Daleithiau ydyn nhw go iawn.
Gweddillion
Bu farw cannoedd o filoedd o bobol yn ystod Rhyfel Corea, ac mae’r Unol Daleithiau yn credu bod 5,300 o gyrff eu milwyr yng Ngogledd Corea o hyd.
Rhwng 1990 ac 1994 fe wnaeth Gogledd Corea drosglwyddo sawl casgliad o weddillion i’r Unol Daleithiau, ac mae swyddogion wedi llwyddo adnabod 181 ohonyn nhw.