Mae 13 o bobol wedi marw ar ôl ar ôl i fan a oedd yn cludo grŵp o westai priodas daro lori yn Fietnam.

Ymhlith y meirw roedd y briodfab ac aelodau o’i deulu, a bu’r digwyddiad yn ystod oriau mân y bore yn nhalaith Quang Nam yng nghanol y wlad.

Bu farw 10 o bobol yn y fan a’r lle, tra bo tri arall wedi marw ar ôl cael eu cludo i’r ysbyty.

Yn ôl rhai adroddiadau, mae’r pedwar teithiwr a oroesodd y ddamwain mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, gan gynnwys dau blentyn chwech oed.

Roedd y fan, a oedd yn cario cyfanswm o 17 person, yn teithio ar siwrne 280 milltir i gartref y briodferch yn ninas Binh Dinh, lle’r oedd disgwyl i’r briodas gael ei chynnal heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 30).

Mae damweiniau traffig yn gyffredin iawn yn Fietnam, gyda thua 14,000 o bobol yn cael eu lladd bob blwyddyn.